
Ma hi bendant yn Hydref, mae’r dail wedi troi lliw ac y mae’r boreau yn rewllyd. Anodd credu ble mae’r Haf wedi mynd.
Roedd ein Haf ni wedi eu dreulio yn mwynhau llawer o ddyddiau allan i drefi arfordirol o amgylch Gorllewin Cymru. Y mae BODOLI wedi cael eu ysbrydoli o gael eu hamgylchynu gan rai mannau lliwgar arbennig iawn i greu casgliad ‘Ein Trefi’.
Rydym wedi dod a cherrig mân yn fyw gan ddefnyddio lliwiau unigryw bywiog i greu trefi adnabyddus hyn.
Byddant yn sicr o fywiogi eich cartref ac yn creu teimlad o hiraeth tuag at y trefi unigryw yr ydym i gyd yn caru ymweld. Gallwn greu unrhyw dref y dymunwch; y mae’r casgliad eisioes yn cynnwys Conwy, Llandudno, Castell Newydd Emlyn ac Aberteifi. Cliciwch yma i weld y casgliad.
www.bodoli.co.uk/cy/categori-eitem/rhoddion-personoledig/ein-trefi/
Arddangosom yn yr Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto yn Y Fenni. Roedd yn hyfryd i gwrdd â chwsmeriaid newydd a dal i fyny gyda hen gwsmeriaid. Gwnaeth ein rhifyn cyfyngedig Ladis Cymreig mwynhau eu hamser yn yr Eisteddfod. Yn y Fenni lle mae’r wisg Gymreig yn tarddu gyda Ladi Lanover. Mae bron gennym y set gyflawn o’r dartan Gymreig ar gyfer y ladis, felly peidiwch â cholli allan a chael eich un chi. Dim ond 100 o bob un sydd yn cael eu greu.
Mae ein gweithdai yn dal i fod yn boblogaidd iawn, nid yn unig i blant ond hefyd oedolion. Cafodd gweithdy oedolion cyntaf eu redeg y penwythnos diwethaf. Roedd yn llawer o hwyl. Gwnaeth rhai 3 ffrâm yr un fel y anrhegion Nadolig. Os oes gennych diddordeb yn ein gweithdai e-bostiwch ni [email protected].
Ydych chi wedi dechrau eich siopa Nadolig eto? Wel os nad ydych mae gennym cynnig arbennig i chi, 10% i ffwrdd o holl gynnyrch tan ddiwedd mis Hydref gan ddefnydio côd siopadolig10.
Dyma rai syniadau i chi ar gyfer anrhegion Nadolig.
Hefyd mae gennym noswaith merched ar yr 11eg o Dachwedd yn y gweithdy yng Nghastell Newydd Emlyn am 7yh-10yh ble cewch 10% i ffwrdd, gwydraid o ddiod swigod am ddim, danteithion a chyfle i ennill hamper BODOLI. Gobeithio eich gweld ar y noson.
Dyna ni am y tro, well mynd nôl ati i beintio tai prydferth, siaradwn yn fuan.
Tîm BODOLI.